Beta Rydym wedi datblygu'r gwasanaeth hwn - rhowch eich adborth i ni
COVID 19
EnglishDefnyddiwch yr adnodd hwn i wirio’ch cymhwysedd am grant gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol Cam 2.
Diben yr ail gam o’r gronfa yw diogelu busnesau a sefydliadau cynaliadwy a chymaint o swyddi â phosibl yn y sector diwylliant er mwyn sicrhau bod y sector yn goroesi argyfwng Covid-19 ac yn parhau i fod yn fywiog, hyfyw a chynaliadwy yn 2021 a thu hwnt. Er mai pecyn achub ac adfer yw hwn yn bennaf mae’n gyfle unigryw i weddnewid y sector.
Mae’r sector yn cynnwys theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, mannau recordio ac ymarfer, atyniadau treftadaeth, sefydliadau treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, archifau, sinemâu annibynnol, lleoliadau comedi a digwyddiadau.
Fodd bynnag, fel y cam gyntaf, bydd y Gronfa Adferiad Diwylliannol ar gyfer y celfyddydau, yn cwmpasu theatrau ac orielau, yn cael ei rheoli ar wahân gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru am ragor o fanylion.
Mae’r cyllid ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021.
Mae’r gronfa bellach ar agor i geisiadau ac mi fydd yn cau ar 20 Ebrill 2021 am 5pm. Bydd y Gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd yn agor yn gynnar yn Fis Mai ac yn cael ei weinyddu gan yr Awdurdodau Lleol.
Os oes gennych unrhyw faterion hygyrchedd a allai eich atal rhag llenwi ffurflen gais ar-lein, ffoniwch y llinell gymorth nawr ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y dudalen Cysylltu â Ni, fel arall defnyddiwch yr adnodd a dilynwch y canllaw cam wrth gam syml.
You currently have JavaScript disabled. Click "Get started" below to automatically scroll to the first step. click the relevant answers to the questions to automatically scroll to the next step after that. Press "back" in your browser at any time to return to the Blaenorol step.
Dechrau arniGweithiwr llawrydd yng Nghymru sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau i'r sector Diwylliannol
NEU
Busnes neu sefydliad sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau i'r sector Diwylliannol yng Nghymru
Cliciwch yma i weld cwmpas y diffiniadau gweithgarwch sy’n gymwys am y cais hwn
sy'n gymdeithasol, yn ddiwylliannol neu'n economaidd arwyddocaol i Gymru, yn unol â strategaeth gyhoeddedig a meini prawf ariannu Digwyddiad Cymru a Nodau Lles Llywodraeth Cymru.
Rydym yn derbyn ceisiadau gan y canlynol:
Busnesau (gan gynnwys unig fasnachwyr) sy'n gallu dangos hanes (o fewn y tair blynedd diwethaf) o ddarparu Gwasanaethau Technegol a Chymorth Creadigol i'r sectorau canlynol:
Rhaid i fusnesau fod wedi'u lleoli, neu weithredu a chyflogi, yng Nghymru a chael gostyngiad o 60% mewn trosiant 1 Ebrill 2020 oherwydd y pandemig.
Rhaid i'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth creadigol a thechnegol i sectorau cymwys fod yn brif ffynhonnell incwm i'r busnes.
Mae enghreifftiau o fusnesau cymwys yn cynnwys y canlynol (i gael cyngor manylach ar gymhwysedd, cyfeiriwch at y Ddogfen Ganllawiau):
* Ond nid meysydd a gwmpesir gan Gyllid Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru gan gynnwys:
Dylai eich sefydliad hefyd fod yn:
Os byddwch yn perthyn i'r categori hwn byddwch yn cael eich trosglwyddo i dudalen gwybodaeth ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae rhestr lawn o gostau cymwys ar gael yn y canllawiau ar gyfer gwneud cais.
Bydd y gronfa ar agor i geisiadau yn yr wythnos sy'n dechrau 6 Ebrill 2021 ac yn cau 20 Ebrill 2021.
Meini prawf cymhwysedd i ymgeisio am grant rhwng £10k - £150k:
Dalier sylw
Agorwch a darllenwch y canllawiau i'ch helpu i gwblhau'r cais.
Cliciwch yma i weld y canllawiau.
Ydych chi'n cytuno â'r amodau uchod?
Bydd y gronfa ar agor i geisiadau yn yr wythnos sy'n dechrau 6 Ebrill 2021 ac yn cau 20 Ebrill 2021.
Meini prawf cymhwysedd i ymgeisio am grant o hyd at £10,000:
Dalier sylw
Agorwch a darllenwch y canllawiau i'ch helpu i gwblhau'r cais.
Cliciwch yma i weld y canllawiau.
Ydych chi'n cytuno â'r amodau uchod?
Bydd y gronfa ar agor i geisiadau yn yr wythnos sy'n dechrau 6 Ebrill 2021 ac yn cau 20 Ebrill 2021.
Meini prawf cymhwysedd i ymgeisio am grant rhwng £150k a £500k:
Dalier sylw
Agorwch a darllenwch y canllawiau i'ch helpu i gwblhau'r cais.
Cliciwch yma i weld y canllawiau.
Ydych chi'n cytuno â'r amodau uchod?
Bydd cyllid ar gyfer gweithwyr llawrydd yn agor yn gynnar mis Mai ac yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, bydd mynediad i broses ymgeisio'r Awdurdod Lleol ar gael o'r safle hwn pan fydd ar agor.
Cliciwch yma am gyfleoedd cymorth ac adnoddau eraill i helpu busnesau drwy argyfwng COVID-19.
Cliciwch yma am gyfleoedd cymorth ac adnoddau eraill i helpu busnesau drwy argyfwng COVID-19.
Cliciwch yma am gyfleoedd cymorth ac adnoddau eraill i helpu busnesau drwy argyfwng COVID-19.
Cliciwch yma am gyfleoedd cymorth ac adnoddau eraill i helpu busnesau drwy argyfwng COVID-19.
Gallwch fynd i dudalen COVID-19 Busnes Cymru ar gyfer cyfleoedd ac adnoddau cymorth eraill i helpu busnesau drwy argyfwng COVID-19.