Welsh Government

Beta Rydym wedi datblygu'r gwasanaeth hwn - rhowch eich adborth i ni

English

Gwiriwr pwy sy’n gymwys am Gronfa Gynhyrchu Cymru Greadigol

Defnyddiwch yr offeryn hwn i weld a ydych yn gymwys am arian Cronfa Gynhyrchu Cymru Greadigol.

Mae Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol yn gynllun dewisol a gyflwynir drwy Gronfa Ddyfodol yr Economi, lle y defnyddir cyllid cyhoeddus i gefnogi twf Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu cynnwys o'r radd flaenaf. Bydd y cyllid yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu a datblygu gemau yng Nghymru sy'n awyddus i ddatblygu cynyrchiadau a fwriedir ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol. Fe'i defnyddir hefyd i ddenu cwmnïau mewnfuddsoddi o'r radd flaenaf a all hybu'r economi leol a gadael gwaddol sylweddol o ran sgiliau yng Nghymru.

Mae Cymru Greadigol yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sector cynhyrchu cynnwys sy'n cynnig cyfleoedd cyfartal ac amrywiol ar gyfer sail cyflogaeth sgil uchel hirdymor. Bydd y cyllid yn targedu cwmnïau sy'n rhoi'r arferion diweddaraf ym maes cynhyrchu cynaliadwy ar waith ac sy'n rhoi'r pwys mwyaf ar lesiant cast, criw a chyflogeion, p'un a ydynt yn weithwyr llawrydd, yn gontractwyr neu'n staff parhaol.

Rydym hefyd yn blaenoriaethu cynnwys sy'n dangos y gorau o Gymru i'r byd, o ran diwylliant, iaith a daearyddiaeth.

Drwy'r cyllid hwn, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Hybu gweithgarwch cynhyrchu drwy ysgogi cynnydd yn nifer y cynyrchiadau a'r amrywiaeth o gynyrchiadau a wneir yng Nghymru
  • Sicrhau bod cynyrchiadau a gefnogir yn cael yr effaith fwyaf posibl ar economïau lleol a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru
  • Gwella cyfleoedd cyflogaeth yn y sector drwy sicrhau bod mwy o gyfleoedd cydgysylltiedig ar gyfer hyfforddiant a datblygiad
  • Datblygu cynulleidfaoedd drwy wella mynediad i gynyrchiadau a chynnwys a wneir yng Nghymru, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol
  • Datblygu enw da Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynyrchiadau a chydgynyrchiadau rhyngwladol, a gefnogir gan ein talent, ein criwiau, ein cyfleusterau a'n lleoliadau unigryw sydd o'r radd flaenaf
  • Helpu i ddatblygu gweithlu amrywiol medrus

Drwy'r cyllid hwn, bydd Cymru yn manteisio ar y cynnydd enfawr yn y galw am gynnwys ledled y byd, drwy ddatblygu diwydiant hirdymor cynaliadwy. Byddwn yn sicrhau y gall pawb sy'n gweithio yn y sector, o weithwyr llawrydd i griw, cast a staff parhaol, ddatblygu eu gyrfa mewn amgylcheddau gwaith teg. Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i gynnal llif o brosiectau arfaethedig sydd, yn ei dro, yn hanfodol i sicrhau sefydlogrwydd y diwydiant.

Darllenwch y canllaw i gael rhagor o wybodaeth am y gronfa.

Os oes gennych unrhyw faterion hygyrchedd a allai eich atal rhag llenwi ffurflen gais ar-lein, ffoniwch y llinell gymorth nawr ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y dudalen Cysylltwch â ni fel arall cychwynnwch y teclyn a dilynwch y canllaw cam wrth gam syml.

You currently have JavaScript disabled. Click "Get started" below to automatically scroll to the first step. click the relevant answers to the questions to automatically scroll to the next step after that. Press "back" in your browser at any time to return to the Blaenorol step.

Cychwynnwch

Ai cynyrchiadau Ffilm neu Deledu (sgript/heb sgript), Gemau neu Animeiddiadau yw prif weithgarwch eich busnes?

Ar sail eich ateb, nid ydych yn gymwys am arian o’r Gronfa.

A gaiff y cynhyrchiad cyfan, neu ran sylweddol ohono, ei wneud yng Nghymru?

Ar sail eich ateb, nid ydych yn gymwys am arian o’r Gronfa.

A yw eich prosiect yn ffilm nodwedd neu ddogfen a fwriedir ar gyfer rhyddhad theatrig (hynny yw, i'w ddangos i'r cyhoedd sy'n talu mewn sinemâu/theatrau).

Cysylltwch â Ffilm Cymru yn y lle cyntaf i drafod cymhwysedd eich prosiect i dderbyn ariannu gan y cyllid cynhyrchu

A oes gennych gynllun cyllido llawn gyda phob elfen gyllido arall ynddo wedi ei gadarnhau?

Ar sail eich ateb, nid ydych yn gymwys am arian o’r Gronfa.

A oes elfen sgiliau / datblygu sgiliau i’r prosiect?

Ar sail eich ateb, nid ydych yn gymwys am arian o’r Gronfa. Mae ymrwymiad i’r elfen sgiliau / gwella sgiliau yn rhan hanfodol o’r gronfa.

A yw’ch prosiect yn ymrwymo i amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd?

Ar sail eich ateb, nid ydych yn gymwys am arian o’r Gronfa. Mae ymrwymiad i amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd yn rhan hanfodol o’r gronfa.

A fedrwch ddangos tystiolaeth y gall y prosiect hwn lwyddo’n fasnachol (cytundeb dosbarthu, comisiwn, darlledwr ac ati)?

Ar sail eich ateb, nid ydych yn gymwys am arian o’r Gronfa.

A oes o leiaf 12 wythnos cyn y bydd y prosiect yn dechrau (prif waith ffotograffiaeth ar brosiectau teledu a ffilm) o ddyddiad yr ymholiad?

Ar sail eich ateb, nid oes digon o amser i gwblhau’r broses ymgeisio.

A oes gan eich cwmni/tîm rheoli brofiad o ddarparu’r math hwn o gynhyrchiad, ac o fod wedi rhyddhau o leiaf un prosiect masnachol yn y 3 blynedd cyn y cais hwn?

Ar sail eich ateb, nid ydych yn gymwys am arian o’r Gronfa.

Yn seiliedig ar eich ymatebion, gallwn ystyried eich prosiect

Cysylltwch â'n tîm sector Cymorth Ariannu Cymru Greadigol (CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru) i gadarnhau eich bod wedi darllen y canllawiau ariannu, wedi mynd drwy'r gwiriwr cymhwysedd ac y gallwch darparu'r wybodaeth ychwanegol sy'n dilyn:

  • Cadarnhad mai eich prosiect yn un Ffilm neu Deledu (wedi'i sgriptio/heb ei sgriptio), Gemau fideo neu Animeiddio
  • Darparu crynodeb byr o'r prosiect (dim mwy na 200 o eiriau)

Ar ôl derbyn eich e-bost, bydd aelod tîm Cymru Greadigol mewn cysylltiad i drafod eich ymholiad.